Barddas
Cymdeithas y Gerdd Dafod. Lle i ddathlu'r gynghanedd a thrafod holl drwch y byd barddoniaeth ✍🏻✨
• Cyhoeddiadau Barddas a Chylchgrawn Barddas •

🍃💫🕊️ DIWRNOD CYHOEDDI 🕊️💫🍃
Mae heddiw'n ddiwrnod cyhoeddi Etifeddiaeth, cyfrol newydd sbon y Prifardd Alan Llwyd.
Dathlu’r etifeddiaeth ddeuol – y Gymraeg a’r gynghanedd – a wneir yn y gyfrol hon sydd yn llawn o drysorau ail gyfnod cystadleuol y bardd a enillodd gadair Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, 2023. Mae’r syniad o etifeddu yn cyniwair drwy’r cerddi hyn, ac maent wedi eu gwreiddio mewn diwylliant, hanes a heddychiaeth – yr hyn a etifeddwyd o’r gorffennol pell ac agos. Heb os, dyma gyfrol nodedig sy’n canu mawl i Gymru a’i phobl ac sy’n codi cwestiynau a fydd yn aros yn y cof.
Celf clawr: Tanwen Haf, Cyngor Llyfrau Cymru.
🌞 Ar gael yn eich siop lyfrau leol heddiw 🌞

🍃💡✨ DIWRNOD CYHOEDDI ✨💡🍃
Mae heddiw yn ddiwrnod cyhoeddi Y Golau yn y Gadair, Tudur Hallam.
Meddai Alan Llwyd: 'Ar wahân i grefft a dawn amlwg yr awdur fel bardd, dwy brif nodwedd y gyfrol hon yw dewrder a dyfnder. Mae hi’n gyfrol ddewr wrth i’r awdur orfod dygymod â’i dynged greulon ef ei hun, ond un o’i themâu amlycaf yw ymlyniad, cariad a gofal teulu.'
Ar werth yn eich siop lyfrau leol heddiw ♥️

🌈✨💭DIWRNOD CYHOEDDI 💭✨🌈
Diwrnod cyhoeddi hapus iawn, iawn i'r gyfrol hon gan Nia Morais. Mae Yn y Freuddwyd yn gyfrol newydd sbon i'r gyfres Tonfedd Heddiw.
Meddai Nia: ‘Mae Yn y Freuddwyd yn gasgliad o gerddi sy’n bwysig imi; rhai cerddi newydd am bynciau rwy’n teimlo’n angerddol drostynt, a rhai sydd wedi cael eu cadw’n agos at fy nghalon ers talwm. Rwy’n teimlo’n falch ac yn ffodus iawn o gael gweld y cerddi yma mewn print, ac yn gobeithio y bydd darllenwyr yn ffeindio gobaith wrth ddarllen.’
Ar werth yn eich siop lyfrau leol heddiw! 🤩

Mae'r prynhawn Gwener cyn Eisteddfod yr Urdd yn edrych yn debyg iawn bob blwyddyn, a diolch i'n Bardd y Mis, Iwan Kellett am ddal hynny yn ei gerdd ddiweddaraf.
Pob lwc i bawb fydd yn cystadlu dros yr wythnos sydd i ddod! ✊🏴🎭✍🏻🎶

Dyma rannu ail gerdd ein Bardd y Mis, fis Mai – 'Trysor' gan Iwan Tomos Kellett ✨🌿
Cerdd wedi'i hysbrydoli gan daith y gerdd wrth grwydro'r 'Bonc', safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ger Marian Glas.
Cafodd y gerdd hon ei darlledu ar raglen Aled Hughes yr wythnos ddiwethaf 📻

Os cofiwch chi'n iawn, Y Golau yn y Gadair gan Tudur Hallam oedd gwerthwr gorau mis Mawrth yn ôl @llyfrau.cymru, ac mae'n wych gweld bod y clod yn parhau 💪🏼✨
Diolch o galon i Christine James am ei geiriau hyfryd o deimladwy. Mae'r gyfrol hon ar werth yn eich siop lyfrau leol heddiw 🌞

Rydym ni mor eithriadol o falch o weld dwy gyfrol gan Gyhoeddiadau Barddas ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2026 (categori barddoniaeth) ✨✨✨ Y newyddion gorau un!
Llongyfarchiadau filoedd i Jo Heyde a'i chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Chwarter Eiliad, ac i Mererid Hopwood a'i chyfrol ddiweddaraf o gerddi heddwch, Mae.
Cofiwch bod modd pledleisio dros eich hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl, Golwg360. Dilynwch y ddolen yn ein bywgraffiad 💥

Mae Rhifyn y Gwanwyn o Gylchgrawn Barddas wedi cyrraedd eich siop lyfrau leol 🌞🌾🌷✨🌿
Mae arlwy arbennig yma – yn gerddi, colofnau, ysgrifau ac adolygiadau. Darllenwch 'Gemau Digymar' gan Simon Chandler, 'Teyrnged i Eigra' gan Sian Northey, cerddi gan Benceirddiaid 2025-2026 a chymaint mwy! 💥

Newyddion arbennig wedi ein cyrraedd ni yr wythnos hon!
Etifeddiaeth, cyfrol newydd sbon y Prifardd Alan Llwyd, oedd gwerthwr gorau mis Ebrill @llyfrau.cymru ✊🏴
Mae'r gyfrol yn cael ei darllen yn eang, ac un o'r rhai sydd wedi darllen yw Gruffudd Antur. Diolch iddo am rannu ei eirda.
Mae Etifeddiaeth ar werth yn eich siop lyfrau leol heddiw 💫

Cerdd gyntaf ein Bardd y Mis, fis Mai – dyma 'Calan Mai' 🌼✨🍃
Diolch o galon iti am ddechrau arni a rhannu dy eiriau, Iwan!
📚Chwilio am argymhellion darllen ar gyfer y penwythnos hir?
✨Podlediad @sutiddarllen ar gael i’w wylio ar @ambobdim neu i wrando ar @ypodcymru, nawr!
Dolen yn y bywgraffiad.
✨Cofiwch hefyd am Glwb Llyfrau Gorau Glas Casi.
🎥 Ffilmo a golygu: Dafydd Hughes
🎧 Recordio sain: Aled Wyn Hughes
📍Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd.
#SutIDdarllen

Croeso mawr i Fardd y Mis, mis Mai, Iwan Tomos Kennett ✍🏻🌻
Hogyn o Fôn yw Iwan. Wedi cyfnod yn astudio Cemeg a Gwyddorau Archaeolegol yn Nghaerdydd, dychwelodd i’r famynys. Mae’n gweithio i GeoMôn Geoparc Byd-eang UNESCO. I ffwrdd o’i waith mae’n mwynhau ysgrifennu ac ymchwilio hanes ei fro. Iwan yw Ysgrifennydd Cymdeithas Lenyddol Bro Goronwy, sydd yn 125 mlwydd oed eleni. Fe welwch rai o’i gerddi yn Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+ a Ffosfforws 5.
Pob hwyl iti ar y barddoni dros gwrs y mis, Iwan!

Story-save.com is an intuitive online tool that enables users to download and save a variety of content, including stories, photos, videos, and IGTV materials, directly from Instagram. With Story-Save, you can not only easily download diverse content from Instagram but also view it at your convenience, even without internet access. This tool is perfect for those moments when you come across something interesting on Instagram and want to save it for later viewing. Use Story-Save to ensure you don't miss the chance to take your favorite Instagram moments with you!
Avoid app downloads and sign-ups, store stories on the web.
Stories Say goodbye to poor-quality content, preserve only high-resolution Stories.
Devices Download Instagram Stories using any browser, iPhone, Android.
Absolutely no fees. Download any Story at no cost.